Trwy ymuno â’r ymgyrch, mae ysgol yn datgan yn gyhoeddus eu bod eisiau bod yn garbon sero erbyn 2030, a’u bod eisiau i lywodraeth y DU alluogi ysgolion yn y DU i wneud mwy ar y mater hwn.
Dangos uchelgais yw pwynt yr ymgyrch hon. Gwyddom fod bod yn garbon sero ar hyn o bryd y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o ysgolion, ond trwy weithio gyda’n gilydd a chyda’r llywodraeth, yr ydym yn credu fod modd cyrraedd hyn erbyn 2030.
I fod yn rhan o’r ymgyrch, mae disgwyl i ysgolion fod yn gweithredu i leihau eu heffaith carbon, gan fesur hyn lle bo modd, a chael ‘camau nesaf’ ar y gweill am y flwyddyn ddilynol. Gallant ddweud pa gamau maent yn gymryd o restr wirio ar y ffurflen ymuno.
Trwy ymuno â’r ymgyrch, mae ysgolion yn ymrwymo i ddweud wrth eu myfyrwyr, cymunedau a chyflenwyr eu bod yn rhan o Awn am Sero ac anelu at fod yn sero carbon erbyn 2030. Gallwn ddarparu logo Awn am Sero i ysgolion wneud hyn.