Mewn partneriaeth â Transform Our World a chlymblaid Awn am Sero, rydym wedi lansio erfyn cynllunio gweithredu ar-lein sydd am ddim ac yn hawdd i’w ddefnyddio er mwyn helpu athrawon a myfyrwyr i flaenoriaethu’r camau y gall eu hysgol gymryd i leihau ei effaith amgylcheddol.
Mae’r pecyn cymorth hwn yn adnodd rhyfeddol i ysgolion i leihau eu hôl troed carbon a’u helpu ar eu taith at sero carbon.
Wrth i fwy o ysgolion ddechrau gweithredu, bydd y syniadau ymarferol hyn i leihau ein heffaith carbon yn treiddio trwy gymuned yr ysgol gan ysbrydoli staff, myfyrwyr a theuluoedd hefyd i wneud newidiadau yn eu dull o fyw bob dydd a helpu i amddiffyn ein planed.
Boed eich ysgol ar fin cychwyn ar ei siwrne o weithredu ar yr hinsawdd neu os yw eisoes wedi mynd ran o’r ffordd, crëwch gynllun gweithredu wedi ei deilwrio sy’n benodol i’ch ysgol chi, a dechreuwch weld a mesur yr effaith yn awr..