fbpx

Cystadleuaeth Let's Go Zero [Awn ni’n Sero] IKEA X - Enillwyr 2023

Enillwyr 2023

Y gwanwyn hwn, mae cystadleuaeth IKEA x Let’s Go Zero wedi dychwelyd i helpu rhagor o ysgolion i ddod â’u syniadau cynaliadwyedd yn fyw.   

Fe wnaethom ofyn i fyfyrwyr ac athrawon ledled y DU anfon syniadau creadigol atom i wneud eu hysgol yn fwy cynaliadwy a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Roeddem yn falch iawn o dderbyn cymaint o geisiadau gwych ac uchelgeisiol – o dyfu llysiau i greu siopau cyfnewid gwisg ysgol ac eco-hybiau, yr osôn oedd y terfyn!

Trwy eu cynhyrchion, datrysiadau a chyllid (gwerth hyd at £2,000 y prosiect), bydd IKEA nawr yn gweithio gyda phedair ysgol fuddugol i ddod â'u gweledigaethau yn fyw.

Fe wnaethom dderbyn bron i 100 o geisiadau anhygoel, ac nid oedd dewis ein henillwyr yn dasg hawdd. Ond mae’r pedwar terfynol o Glasgow, Blackburn, Barnet a Huddersfield i gyd yn gynlluniau gwych i ymgorffori diwylliant o gynaliadwyedd o fewn cymuned ehangach yr ysgol.

Yn ystod tymor yr haf, bydd IKEA yn gweithio’n agos gyda phob ysgol, gan ddefnyddio eu cynhyrchion a’u harbenigedd mewn byw’n gynaliadwy i ddod â phob syniad buddugol yn fyw, gan helpu athrawon a disgyblion i wneud mwy i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

Ysgol Gynradd Lochfield

Mae prosiect Gerddi Lochfield yn golygu bod holl fyfyrwyr yr ysgol yn cymryd rhan wrth adeiladu a rhedeg prosiect gardd gynaliadwy.

Bydd yr ardd hon yn brosiect cymunedol ac ysgol gyfan, gan greu gwelyau uchel ar gyfer tyfu bwyd a mannau blodau gwyllt i ddenu pryfed a bywyd gwyllt. Bydd y myfyrwyr yn dysgu am gynaliadwyedd, cylchoedd bywyd a pharch at blanhigion ac anifeiliaid tra'n cymryd cyfrifoldeb am galendr garddio tymhorol. Byddan nhw’n dod i ddeall am dyfu bwyd o'r ddaear i’r bwrdd gan gynnwys hau, plannu, cynaeafu a choginio i'w fwyta.

Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol megis cynnig blodau a chynhyrchion i gartrefi ymddeol lleol a banciau bwyd.

Ynghyd ag IKEA, byddan nhw’n adeiladu ardal eistedd awyr agored, gan greu man i ddysgu awyr agored ddigwydd o amgylch yr ardd, a chefnogi digwyddiadau’r ardd megis ystafell de i gynyddu cyfranogiad y gymuned.

Three school children holding school uniforms

Ysgol Uwchradd Eglwys Loegr St Christopher's Accrington

Mae'r ysgol yn creu gorsaf ail-lenwi a siop iwnifform ail-law.

Mae dros 1.4 miliwn o wisgoedd ysgol gwisgadwy yn cael eu taflu bob blwyddyn yn y DU. Bydd y siop wisg ysgol ail-law yn creu man i rieni a myfyrwyr roi ac amnewid gwisg ysgol, gan greu diwylliant o ailddefnyddio ac uwchgylchu.

Bydd yr orsaf ail-lenwi’n caniatáu i'r holl gynhyrchion glanhau ar draws yr ysgol gael eu hail-lenwi'n hawdd, gan leihau'r defnydd o blastig yn sylweddol, tra hefyd yn helpu i newid meddylfryd ynghylch gwastraff.

Ynghyd ag IKEA, byddan nhw’n adeiladu man pwrpasol newydd i rieni, myfyrwyr a theuluoedd ddewis eu dillad ysgol neu eu ffrogiau prom a chael mynediad at orsafoedd ail-lenwi.

Ysgol East Barnet

Wedi’i ysbrydoli gan y myfyrwyr eu hunain, mae hwn yn brosiect newydd cyffrous i adfywio llain awyr agored yr ysgol a chreu man lle gall myfyrwyr ddysgu a mwynhau eu hamser cyfoethogi.

Mae disgyblion yn angerddol am dyfu planhigion, perlysiau a llysiau y byddan nhw naill ai'n eu coginio mewn gwersi bwyd neu'n mynd â nhw adref. Bydd y man awyr agored yn ymwreiddio diwylliant o gynaliadwyedd ar draws corff yr ysgol gyfan. Bydd athrawon yn gallu archebu’ lle ar gyfer gwersi gwyddoniaeth, gan ddefnyddio’r llain wrth ei ochr, yn ogystal â gwersi eraill megis Saesneg, lle gall y myfyrwyr ddarllen a dysgu mewn lleoliad awyr agored mwy hamddenol.

Ynghyd ag IKEA, byddan nhw’n defnyddio cynhyrchion i greu lle cynhwysol a phleserus i fyfyrwyr ac athrawon. 

Ysgol Iau a Babanod Fixby

Wedi’i ysbrydoli gan y myfyrwyr, syniad cyffrous i leihau gwastraff a rhoi yn ôl i’r gymuned yw trwy siop gyfnewid lle gall rhieni a theuluoedd ddod i brynu neu gyfnewid eitemau am gynhyrchion, wyau, neu eginblanhigion o lain ac ieir yr ysgol.

Mae myfyrwyr Fixby eisoes wedi ymrwymo i leihau effaith amgylcheddol yr ysgol trwy eu Clwb Ysgol y Goedwig, cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored cyffrous a dysgu sgiliau newydd difyr.

Bydd preswylwyr lleol hefyd yn gallu defnyddio’r llain, gan ymwreiddio diwylliant cymunedol o gynaliadwyedd.

Gan adeiladu ar yr hyn y mae’r ysgol eisoes wedi llwyddo i’w gyflawni, ynghyd ag IKEA, byddan nhw’n adeiladu man pwrpasol newydd i deuluoedd, staff a’r gymuned leol ddewis neu gyfnewid cynhyrchion, gan hyrwyddo economi gylchol.

Angen rhywfaint o ysbrydoliaeth ar gyfer beth i'w wneud nesaf? Neu ai dim ond dechrau ar eich taith gweithredu hinsawdd ydych chi?

Mae ysgolion Let’s Go Zero wedi cymryd camau mewn llawer o wahanol feysydd o amgylch yr ysgol, o arbed ynni i ymgysylltu â’r gymuned. Darllenwch a chael eich ysbrydoli.

 

CYSYLLTWCH A NI

Ebost: letsgozero@ashden.org
Twitter: @LetsGo_Zero

cyCymraeg