Let’s Go Zero has been helping school staff and students create fantastic, inspirational projects that inspire climate action through a connection to nature.
Y cyfan yr oedd yn rhaid i ysgolion wneud oedd dweud wrthym sut y buasent yn defnyddio gwobr o £1,000 neu £200 i ddod â’u myfyrwyr yn nes at natur. Cefnogir y gystadleuaeth gan OVO Foundation.
Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi 25 enillydd ein gwobr natur! Wedi derbyn nifer llethol o gynigion o bob cwr o’r wlad, dewisodd ein beirniaid y rhai mwyaf ysbrydoledig a chreadigol sydd â’r grym i ysbrydoli pobl ifanc a chymuned ehangach yr ysgol.
Dathlu 25 o enillwyr
Enillwyr y Wobr o £1000
Mae ysgol Arbourthorne am greu sioe arddwriaethol gymunedol lle bydd gan bob myfyriwr gyfle i arddangos yr hyn maent wedi dyfu gan ddefnyddio’r pecynnau tyfu gartref a brynwyd gydag arian y wobr.
Mae ysgol Djanogly yn buddsoddi mewn pecynnau hydro-lysiau i faes chwarae’r ysgol Tîm gwyrdd yr ysgol fydd yn edrych ar ôl y rhain, a chaiff y cynnyrch ei roi i fyfyrwyr a’u teuluoedd.
Cynllun TîmEco’r myfyrwyr yn Ysgol Gynradd Downsview yw datblygu llwybr natur yn nhiroedd yr ysgol i helpu i gynnal bywyd gwyllt lleol a chysylltu’r ysgol a’r gymuned â natur.
Bydd Canolfan Addysg Gogledd Herts, uned cyfeirio disgyblion, yn defnyddio arian y wobr i ddatblygu ardal fel rhandir fel y gall y myfyrwyr dyfu eu llysiau eu hunain, gaiff eu defnyddio wedyn mewn gwersi coginio ac i ddarparu bwydlen iach i ginio’r ysgol.
Mae myfyrwyr yn Ysgol a Choleg Chwaraeon Northfield am greu gardd synhwyraidd groesawgar, fydd yn gwella cyswllt y myfyrwyr â natur ac yn darparu man tawel, myfyrgar i gefnogi lles corfforol a meddyliol.
Mae Ysgol Rydd Eglwys Loegr Norton yn bwriadu defnyddio arian y wobr i greu pwll ar diroedd yr ysgol, fydd yn rhoi man dysgu awyr-agored cyffrous i’r myfyrwyr, a gwella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ar yr un pryd.
Mae myfyrwyr Cynradd 7 yn ysgol gynradd Our Lady of Peace eisiau creu a rhedeg clwb garddio cynhwysol a byddant yn defnyddio arian y wobr i brynu cyfarpar a chyflenwadau.
Bwriad ysgol St John yw creu gardd ddi-raw, gyfeillgar i natur, gyda gwelyau ffrwythau a llysiau gaiff eu plannu gyda chylchdro o gnydau trwy gydol y flwyddyn, gan roi profiad uniongyrchol o dyfu tymhorol i’r myfyrwyr.
Cynllun Academi Featherstone yw creu gardd gymunedol y gellir ei defnyddio fel erfyn dysgu ymarferol, gan ddysgu myfyrwyr am ecoleg a sut i dyfu ffrwythau a llysiau yn gynaliadwy.
Bydd arian y wobr yn talu am ardd i’r ysgol lle gall myfyrwyr ddysgu am dyfu bwyd, a lle’r ail-gyflwynir rhywogaethau brodorol, gan gynyddu gwytnwch y cnydau a chreu cynefinoedd newydd i fywyd gwyllt.
Enillwyr y Wobr o £200
I ddod â’r myfyrwyr yn nes at natur a’u dwyn i mewn i blannu ffrwythau, llysiau a phlanhigion eraill, bydd Ysgol Gynradd Ballyholme yn defnyddio arian y wobr i brynu cyfarpar garddio sy’n addas i oedran y disgyblion, a hadau blodau gwyllt i ddenu peillwyr.
Bwriad Ysgol Gynradd Darley Dale yw prynu peiriant gwasgu afalau fel y gall y myfyrwyr wneud sudd afal o goed afal yr ysgol. Bydd y myfyrwyr yn dod â’u poteli eu hunain ac yn gwerthu’r sudd i aelodau o’r gymuned leol, gyda’r elw yn mynd i gynllun ‘O’r Hedyn i’r Plat’ yr ysgol.
Mae Ysgol Uwchradd Falinge Park am redeg cyfres o weithdai gyda deunyddiau a uwchgylchwyd i greu blychau plannu, tai trychfilod a theclynnau bwydo adar i deuluoedd lleol, yn ogystal ârhoi hadau a bylbiau iddynt fynd adref gyda hwy i’w plannu.
Bydd Canolfan Ddysgu Lockerbie yn datblygu ardal blannu hygyrch i gadeiriau olwyn fel y gall y myfyrwyr dysgu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain.
Hoffai North Star 240 ddatblygu gofod ysgol goedwig yn nhiroedd yr ysgol. Byddant yn creu man eistedd a dysgu awyr agored gyda phydew tân, fel y gall y myfyrwyr a’r staff ddysgu sgiliau awyr agored ymarferol.
Mae myfyrwyr a staff Coleg Technegol Northfleet eisoes wedi codi arian i brynu gwenynfa a byddant yn defnyddio arian y Wobr Natur i brynu cytref gychwynnol o wenyn, gan hyfforddi’r myfyrwyr i edrych ar eu hôl.
Bydd Ysgol Polygon yn troi rhan o diroedd yr ysgol yn warchodfa natur, gyda blodau gwyllt wedi eu plannu yno i annog gwenyn ac i roi mwy o gyfle i fyfyrwyr ddysgu yn yr awyr agored.
Mae myfyrwyr yn Ysgol Gynradd Rosehall yn gobeithio helpu i gynyddu’r boblogaeth leol o wiwerod coch trwy greu ardal fechan ddynodedig iddynt ar diroedd yr ysgol.
Bydd Ysgol y Merched Simon Langton yn lansio dyddiau ysbrydoli bioamrywiaeth lle gwahoddir ysgolion cynradd lleol i’r ysgol i gymryd rhan mewn gweithgareddau lle gallant adeiladu eu blychau trychfilod a’u basgedi compostio eu hunain.
Aiff arian y wobr tuag at greu gardd synhwyraidd fydd yn cefnogi myfyrwyr sy’n cael trafferthion iechyd meddwl, yn ogystal â chreu cynefinoedd i fywyd gwyllt lleol.
Defnyddir yr arian i redeg stondin yn y ffair haf flynyddol lle gall myfyrwyr a’u teuluoedd ddysgu sut i wneud eu blychau ffenest a’u blychau plannu eu hunain gyda deunyddiau wedi eu huwchgylchu.
Barod i helpu’ch ysgol i ymuno ag Awn am Sero?
Dewch yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o ysgolion a mudiadau cynaliadwyedd, sy’n gweithio ynghyd gyda chynghorau lleol a llywodraethau i helpu ysgolion ddod yn garbon sero.
www.ashden.org
letsgozero@ashden.org
Let’s Go Zero is a campaign led by Ashden. All content © 2024 Ashden. Registered office: The Peak, 3rd Floor 5 Wilton Road, London, SW1V 1AP Registered in England and Wales as a company limited by guarantee. Registered number: 05062574/ Charity number: 1104153