fbpx

Lledaenwch y neges, dathlu addewid eich ysgol
ac ysbrydoli eraill i ymuno â chi.

Gall ysgolion arwain y ffordd o ran cynaliadwyedd, ymateb i alwadau pobl ifanc am weithredu, ac annog teuluoedd a busnesau lleol i daclo’r argyfwng hinsawdd.

Mae’n bryd codi llais am y rhan mae eich ysgol yn chwarae. Dyma sut:

Rhowch eich bathodyn addewid Awn am Sero ar wefan eich ysgol neu’r cyfryngau cymdeithasol, er mwyn i chi allu dangos fod eich ysgol ar flaen y gad wrth leihau carbon.

Gallwch lawrlwytho eich bathodyn yma..

Dyma dipyn o destun y gallwch ddefnyddio i ddweud wrth eraill am eich addewid Awn am Sero:

Twitter:

Rŷn ni wedi cymryd yr addewid @LetsGo_Zero, gan ymuno ag ysgolion y DU sydd eisiau bod yn #serocarbon erbyn 2030.

Rydym yn gweithredu nawr i leihau ein heffaith carbon, helpu i wrthweithio #newidhinsawdd a diogelu ein planed i’r oesoedd a ddêl.

Gallwch ymuno yma hefyd: https://letsgozero.org/

 

Neu os ydych yn brysur iawn, defnyddiwch ein postiad parod clicio a thrydar yma..

Dyma dipyn o destun y gallwch ddefnyddio i ddweud wrth eraill am eich addewid Awn am Sero. Y cyfan mae’n rhaid i chi wneud yw ei gopïo a’i ludio i’ch gwefan, gan ei addasu yn ôl yr angen.

“Rydym wedi cymryd yr addewid Awn am Sero, gan ddatgan ein nod i gyrraedd sero carbon erbyn 2030. Rydym yn ymuno ag ysgolion ledled y DU yn yr ymgyrch hon i ddangos y gefnogaeth lethol i ysgolion sero carbon, a gwahodd llywodraethau a chynghorau lleol i weithio gyda ni i gyrraedd y nod hwn.

Gwyddom y gall ysgolion arwain y ffordd i’w cymuned, gan ymateb i alwadau pobl ifanc am weithredu. A dweud y gwir, gallant ysbrydoli cymunedau cyfan i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Yn ‘negawd yr hinsawdd’ dyngedfennol nesaf, byddwn yn rhan o rwydwaith cenedlaethol Awn am Sero o ysgolion a mudiadau cynaliadwyedd, gan rannu gwybodaeth am sut i gyrraedd sero carbon, a gweithio gyda chynghorau lleol a’r llywodraeth i beri i hyn ddigwydd.

Rydym yn ymrwymo i dorri carbon mewn nifer o feysydd allweddol. Dyma rai o’r pethau rydym eisoes wedi gwneud / sydd ar y gweill gennym:

Trwy ymuno ag ymgyrch Awn am Sero ac ymrwymo i ddod yn ysgol sero-carbon, rydym yn cymryd cam cadarnhaol ar lefel leol i helpu i wrthweithio’r problemau hinsawdd sydd yn ein hwynebu oll ledled y byd. Mae’n anfon negeseuon cryf i’n hysgol a’n cymuned gyfan y gallwn, gyda’n gilydd, ddiogelu ein planed i genedlaethau’r dyfodol.

Dewch i wybod mwy am ymgyrch Awn am Sero yma: https://letsgozero.org/

Wyddoch chi am ysgol sydd eisoes yn gweithredu neu am gychwyn ar eu taith sero carbon eu hunain? Gofynnwch iddynt ymuno â chi, cymryd yr addewid Awn am Sero, a dangos cefnogaeth i ysgolion cynaliadwy ledled y DU.

Trwy e-bostio ysgolion eraill, gallwch helpu i’w hannog i ymuno â chi a thros 400 o rai eraill sy’n gwneud yr addewid ledled y DU.

Mae gennym lythyr PDF gwych i chi ddefnyddio yma. i ddal eu sylw. Rydym yn argymell y dylech ei lawrlwytho a’i atodi at e-bost er mwyn arbed argraffu.

Neu dyma destun y gallwch ddefnyddio yn eich e-bost eich hun i ddweud wrthynt am sut i ymuno:

Helo (enw),

Welsoch chi’r ymgyrch ysgolion Awn am Sero, genedlaethol? Ledled y DU, mae ysgolion yn ymuno ac yn datgan eu nod o fod yn garbon sero erbyn 2030.

Rydym newydd ymuno, gan ddod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o ysgolion a mudiadau cynaliadwyedd i rannu gwybodaeth am sut i ddod yn garbon sero, a gweithio gyda chynghorau lleol a’r llywodraeth i beri i hyn ddigwydd.

Wnewch chi ymuno â ni?

Bydd cymryd rhan yn dangos y gefnogaeth aruthrol sydd i ysgolion sero carbon. Mae’n gyfle hefyd i ddangos fod eich ysgol yn arwain y ffordd i leihau carbon. Hefyd, mae cael ysgolion i weithredu ar yr hinsawdd yn dod â manteision yn syth - fel biliau ynni is a bwyd ysgol iachach

Cefnogir yr ymgyrch gan fudiadau amlwg gan gynnwys yr elusen atebion hinsawdd Ashden, Cynllun Gweithredu Byd-eang, WWF, y Soil Association, Eco Schools a Sustrans.

Mae dylanwadwyr ac enwogion hefyd yn ymuno â’r ymgyrch.

Beth am gymryd cam pendant tuag at wrthweithio’r argyfwng hinsawdd ac anfon neges gref i’n cymuned leol ein bod yn anelu i wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein planed i genedlaethau’r dyfodol.

Gwnewch eich ysgol yn aelodau yma: https://letsgozero.org/

Yn ôl i’r Pecyn Cymorth Ysgolion

Cysylltu ag eraill

Gweithredwch nawr

cyCymraeg