Cyfle i ennill hyd at £1,000 i brosiect gwyrdd gwych yn eich ysgol!!
Let’s Go Zero – yr ymgyrch genedlaethol dros ysgolion sero carbon – is helping school staff and students create fantastic, inspirational projects that inspire climate action through a connection to nature.
I gael cyfle i ennill, y cyfan mae’n rhaid i ysgolion wneud yw dweud wrthym sut y buasent yn defnyddio gwobr o £1,000 neu £200 i ddod â’u myfyrwyr yn nes at natur. Cefnogir y gystadleuaeth gan The OVO Foundation ac y mae 25 cyfle i ennill: 10 gwobr o £1000 a 15 gwobr o £200.
Gallai prosiectau olygu plannu coed, tyfu llysiau neu gynnal bywyd gwyllt ar dir yr ysgol, ond mae rhyddid i’ch ysgol fod mor greadigol ag y myn. Bydd ein beirniaid yn chwilio am syniadau creadigol all ysbrydoli pobl ifanc a chymuned ehangach yr ysgol, ac y maent yn awyddus i wobrwyo prosiectau fydd o fudd i grwpiau llai breintiedig, fel rhai mewn ardaloedd â llai o wasanaethau.
Caiff yr ysgolion buddugol gyfle hefyd i rannu stori’r hyn maen nhw’n wneud, a’i effaith.