fbpx

Pam Ysgolion?

Dan arweiniad clymblaid rymus o fudiadau cynaliadwyedd, mae Awn Am Sero yn uno ac yn cefnogi ysgolion yn y DU i weithio er mwyn dod yn garbon sero erbyn 2030.

Gyda Gyda phlant o oed ysgol ar 42% o holl aelwydydd y DU,gall ein hystafelloedd dosbarth ysbrydoli cynnydd ar draws cymunedau. Mae newid mewn ysgolion eisoes yn helpu teuluoedd cyfan (yn ogystal â staff ysgolion) i weld fod manteision lu i feddwl a gweithredu yn fwy cynaliadwy. Mae ysgolion carbon-isel yn plannu syniadau gwych yn ein cartrefi, ein strydoedd a’n mannau gwaith.

O gynlluniau i leihau llygredd aer y tu allan i glwydi ysgolion i fwydlenni blasus seiliedig ar blanhigion, mae toreth o ffyrdd i ysgolion ddangos pam mor syml a gwerthfawr y gall gweithredu ar hinsawdd fod. Mae Awn am Sero yn helpu i amlygu’r llwyddiannau hyn, ysbrydoli eraill a sbarduno ymateb gan gymdeithas yn ei chyfanrwydd i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Bydd gan ysgolion ran hollbwysig i’w chwarae i helpu’r DU i ostwng lefelau allyriadau carbon. Mewn gwirionedd, mae ganddynt y grym i atal 625,000 tunnell o CO2 rhag gollwng i’r atmosffer. Mewn ysgol unigol neu glwstwr o ysgolion, gall ymyriadau megis defnyddio llai o drydan neu wneud adeiladau yn fwy ynni-effeithlon gael effaith sylweddol.

 

Dewch i weld sut mae ysgolion yn torri eu hallyriadau:

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth

  • Gweithredu cynlluniau teithio llesol i annog cerdded a beicio i’r ysgol
  • Myfyrwyr a staff yn defnyddio apiau rhannu lifft
  • Symud i fysus ysgol trydan
Find Help

Gwastraff

Gwastraff

  • Casglu gwastraff bwyd ac ailgylchu ar wahân
  • Sefydlu arwerthiannau gwisgoedd ysgol ail-law
  • Sefydlu contract gwastraff 'sero i dirlenwi'
Find Help

Bwyd

Bwyd

  • Ymuno â’r Mudiad #NoBeef (peidio â gweini cig eidion na chig oen)
  • Cyflenwi bwyd Masnach Deg
  • Tyfu a defnyddio bwyd ar y safle
Find Help

Dŵr

Dŵr

  • Rhoi amseryddion ar dapiau i leihau gwastraff
  • Cynaeafu dŵr glaw trwy ddefnyddio barilau dŵr
  • Gosod mesurydd clyfar i ddal gwybodaeth ddyddiol, denu diddordeb y myfyrwyr a darparu data olrhain

Natur

Natur

  • Sefydlu clwb garddio
  • Trefnu mentrau plannu coed
  • Plannu gwelyau llysiau cyfeillgar i beillwyr
  • Rhoi’r gorau i ddefnyddio mawn a phlaleiddiaid
Find Help

Ynni

Ynni

  • Trefnu archwiliadau ynni dan arweiniad y myfyrwyr
  • Cynnal dyddiau 'trydan isel' neu 'ddim trydan'
  • Installing biomass boiler or ground source heat pumps and solar panels
Find Help

Cwricwlwm

Cwricwlwm

  • Dysgu mewn AGref sut mae ein myfyrwyr yn ‘stiwardiaid yr amgylchedd’
  • Translating school's eco code into different languages in MFL classes
Find Help

Caffael

Caffael

  • Defnyddio papur FSC yn unig
  • Defnyddio cyflenwyr arlwyo sy’n darparu cartonau diod heb fod â gwelltyn
  • Cyflenwi bwyd mewn pecynnau heb ddim neu fawr ddim plastig
  • Gwneud caffael cynaliadwy yn rhan o bolisi cynaliadwyedd yr ysgol
Find Help

Mae pobl ifanc eisoes yn crefu am weithredu ar yr hinsawdd. Maent yn gwybod y bydd hyn yn dod â chymunedau glanach a thecach iddynt yn awr, heb sôn am ddyfodol mwy diogel.

Trwy roi gweithredu ar yr hinsawdd wrth galon bywyd beunyddiol yr ysgol, mae Awn am Sero yn creu cyfleoedd dysgu pwerus iawn. Dyma fydd yn paratoi pobl ifanc am swyddi a chyfleoedd gwyrdd y dyfodol.

Ond mae gweithredu hefyd yn grymuso pobl ifanc i ymateb i bwnc sy’n agos at eu calonnau – un sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt hwy a’u hanwyliaid.

Mae’n hollbwysig nad yw trawsnewidiad y DU i garbon isel yn gadael neb ar ôl. Bydd canolbwyntio ar ysgolion yn paratoi pob un person ifanc ar gyfer y newid sydd o’u blaenau, a’u gadael yn rhydd i fwynhau’r manteision a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil dyfodol sero carbon.

"Does dim modd gorbwysleisio pwysigrwydd ymgyrch fel Awn am Sero. I ddechrau, mae’n chwarae rhan sylfaenol trwy ddod ag ysgolion a’r system addysg i fod yn rhan o frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Ond mae hefyd yn galluogi ysgolion i arwain trwy roi esiampl ac ysbrydoli’r bobl ifanc sy’n cael eu haddysgu am sut i weithredu ar newid hinsawdd a chadw iechyd y ddaear wrth graidd pob penderfyniad a wnawn." (Daze Aghaj, 21, Ymgyrchydd Hinsawdd)

Ydych chi’n fyfyriwr neu’n rhiant?

Eisiau helpu eich ysgol i weithredu a dod yn rhan o Awn Am Sero?

Dyma sut.

cyCymraeg