29 diwrnod o wethredu hwyl, cynhwysol ac ysbrydoledig
Pob dydd rhwng 7fed o Fehefin a 5ed o Orffennaf, bydd ysgolion o gwmpas y wlad yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd.
Mae ein calendr yn rhoi 29 diwrnod o hwyl gynhwysol ac ysbrydoledig i chi. Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i wneud eich mis gweithredu llwyddiannus. O daflenni gwaith i gyflwyniadau gwasanaeth, taflenni lliwio, maniffestos, canllaw cyfryngau cymdeithasol a chân i weiddi nerth eich pennau iddi.
Fe gallwch ennill mwy na gwerth £2,500 o wobrau cynaliadwy gyda'r Her Hinsawdd. Rhannwch eich lluniau a'ch fideos ohonoch yn cymryd rhan yn yr Her a defnyddiwch yr hashnod #YrHerHinswadd a @LetsGoZero
Fe allwch hefyd gymryd rhan yn ein Cwis er mwyn cael mwy o siawns i ennill gwobrau cyffrous.
Gwobrau yn cynnwys:
Mae'r rhestr o'r holl wobrau yma
Gall eich gweithgaredd dyddiol fod yn unrhywbeth rydych chi'n ei hoffi gwneud ond i wneud pethau'n haws, rydyn ni wedi creu Calendr yr Her sy'n cynnwys gweithgareddau hwyl a hawdd. Maent yn amrywio o gynnal siop cyfnewid gwisg ysgol, plannu llwyn pili-pala, amser cinio dydd Llun di-gig a chymryd rhan yn ein Cwis Mawr yr Her.
Os oes her rydych chi’n ei hoffi ond yn methu gwneud y diwrnod hwnnw, gallwch chi bob amser gymryd rhan yn nes ymlaen mewn ffordd sy’n addas i chi. Ystyriwch y calendr yn becyn dewis o weithgareddau hinsawdd hwyliog.
Gallwch gymryd rhan fel ysgol gyfan, dosbarth, clwb eco neu fel disgybl unigol. Fe all staff cegin, gofalwyr a thimoedd eraill ymuno, a hoffwn weld plant sy’n cael eu haddysgu adref yn rhan o’r hwyl hefyd.
Hyd yn oed os nad ydych yn gweithio mewn ysgol, lledaenwch y neges i’ch teulu, cymdogion a’ch ffrindiau. Mae gennym ystod eang o adnoddau gwerthfawr sydd am ddim. Ymunwch â ni yn yr hwyl!
Mae'r Her Hinsawdd yn gweithredu'n flynyddol gydag Awn Am Sero er mwyn achub y blaned.
Mae'r ymgyrch yn cefnogi ysgolion i gyrraedd sero carbon erbyn 2030. Cofiwch, mae eich gweithredoedd bach yn arwain at un gwahaniaeth mawr.
Let’s Go Zero is a campaign led by Ashden. All content © 2024 Ashden. Registered office: The Peak, 3rd Floor 5 Wilton Road, London, SW1V 1AP Registered in England and Wales as a company limited by guarantee. Registered number: 05062574/ Charity number: 1104153